£24,479 monthly
Number of Applicants
:000+
Let AI Supercharge Your Job Hunt!
JobCopilot scans 500,000+ company career sites daily to find jobs for you
EYST is excited to be joining forces with Codi as part of their Green Careers Pathway Project. This ambitious project funded by the National Lottery Community Fund aims to support young people into Green careers. This role will directly support clients on their employment journey to overcome barriers, build confidence, and gain essential skills for careers focused on sustainability, climate resilience, and environmental restoration. We are looking to recruit a Project Support Officer to support delivery of the project.
EYST Green Careers Project Support Officer
Job Description
Part of the Green Careers Pathway Project lead by Codi
Job Title
Project Support Officer
Hours of Work
35 hours per week
Salary
£ 24,479
Tenure
Fixed 1 Year contract
Responsible for
EYST Clients aged 16-30 Swansea
Responsible to
EYST Strategic Youth Team Lead
Location of Work
EYST Headquarters Swansea
Notes
This role will be hosted by EYST but is part of a wider project led by Codi
This role needs to be delivered in person.
Travel across Swansea region will be required for this role.
This role would be ideal for candidates aged 18-30 and we encourage those who have had experience of being supported by the Green Careers Project to apply.
An Enhanced DBS will be required for this role.
Evidence of permission to work will be required.
Deadline for applications is Friday 17th July at 23.59
Interviews will take place on Wednesday 29th July
For informal chat about this role please contact [email protected] or [email protected]
Project Overview
EYST is excited to Join Pobl on their Green Careers Pathway Project. The Employment coach will be part of the Green Careers Pathway team but will be based in EYST.
The Project Support Officer will support the delivery of the project and support young people (aged 16-30) in Swansea to overcome barriers, build confidence, and gain essential skills for careers focused on sustainability, climate resilience, and environmental restoration.
This position emphasizes developing employability and green skills that align with the growing green economy and contribute to reducing carbon emissions, restoring nature, and promoting climate adaptation.
This role requires a proactive, inclusive approach to empower young people, enhance their employability, and enable them to contribute to a more sustainable future.
Aims of the Post
1. Support project delivery by Actively engage young people, particularly those from underrepresented groups, including women, individuals with disabilities, and ethnic minority communities, to participate in green initiatives and build pathways into the green sector.
2. Support the provision of tailored coaching, training, and mentorship to help participants build confidence, develop skills, and prepare for sustainable careers.
3. Foster equitable access to job opportunities in the green economy, ensuring that all participants can succeed in meaningful, environmentally focused careers
4. Support the delivery of personalised support to each participant, focusing on skill development that aligns with current and future needs in the green economy.
5. Support the delivery of the project and work closely with the Employment Coach to support participants
6. Support EYST agenda to improve Green efficiency and knowledge.
Principal Accountabilities and Main Duties
This includes:
Track participant progress, assess outcomes, and prepare reports that contribute to policy insights and funding considerations.
2. Support Participant Engagement and Inspiration
This includes:
3. Support Career Exploration and Skill Development
This includes
4. Support Work Experiences and Placements
This includes
5. Support the delivery of In-Work Support and Career Progression
6. Promoting Diversity, Equity, and Inclusion in Green Careers
This includes:
7. To support and attend in regular network meeting for partners to attend and share updates and learning and highlight issues
8. To present regular progress reports to funders, the EYST Co-directors and EYST Board as required
9. To ensure that the project promotes and reflects equality of opportunity at all levels.
10. To ensure that EYST Safeguarding, Data Protection, Equal Opportunities and all other relevant policies are implemented.
11. To maintain all administrative and financial records related to the project, in accordance with EYST administrative and financial systems.
12.To work with the EYST Co-directors and Board to set and maintain a culture of high professional standards and to deliver best value services.
13.To carry out any other duties that may from time to time be required.
Person Specification (all elements essential)
Essential
1. At least one years’ experience of working with ethnic minority communities, preferably in Wales.
2. Community Engagement Skill
3. Capability to collaborate
4. Specific knowledge and experience of the issues faced by diverse ethnic minority communities in Wales with reference to employability.
5. Good Knowledge of Green careers and sustainability
6. Ability to empathise, support and empower clients.
7. Able to work independently and with considerable discretion but to seek advice as required
8. Excellent written, verbal communication and interpersonal skills
9. Experience of monitoring projects and recording client support using Client CRM systems
10. In depth understanding and commitment to equal opportunities, along with a commitment to contribute to the development of policy and practices in this area
11. Self-motivated and able to work to deadlines and under pressure in a high intensity environment.
12. Ability to travel across Swansea region
13. Good IT skills including Email, Powerpoint, Word, Excel and Remote Working skills (Zoom, etc) with the ability to adapt to new technology
14. A commitment to continuous Personal and Professional Development
15. Demonstrable commitment to EYST’s Organisational Values of Equality, Social Justice, and Making a Positive Difference
16. Commitment to EYST OAR Principles of Ownership, Accountability and Respect
Swyddog Cymorth Prosiect EYST
Disgrifiad Swydd
Rhan o’r Prosiect Llwybr Gyrfaoedd Gwyrdd dan arweiniad Codi
Teitl y Swydd
Swyddog Cymorth Prosiect
Oriau Gwaith
35 awr yr wythnos
Cyflog
£ 24,479 y flwyddyn
Cyfnod
Contract cyfnod penodol 1 flwyddyn
Yn gyfrifol am
Cleientiaid EYST rhwng 16 a 30 oed yn Abertawe
Yn atebol i’r
Arweinydd Tîm Ieuenctid Strategol EYST
Lleoliad y gwaith
Pencadlys EYST Abertawe (Mae angen cyflwyno’r prosiect hwn wyneb yn wyneb)
Nodiadau
Bydd y swydd hon yn cael ei chynnal gan EYST ond mae’n rhan o brosiect ehangach dan arweiniad Codi
Mae angen cyflawni’r rôl hon wyneb yn wyneb.
Bydd angen teithio ar draws rhanbarth Abertawe ar gyfer y swydd hon.
Byddai’r swydd hon ddelfrydol i ymgeiswyr rhwng 18 a 30 oed ac rydym yn annog unigolion sydd â phrofiad o gael eu cefnogi gan y Prosiect Gyrfaoedd Gwyrdd i wneud cais.
Bydd angen archwiliad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon.
Bydd angen tystiolaeth o ganiatâd i weithio.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 17 Gorffennaf am 23.59
Bydd cyfweliadau cael eu cynnal ar ddydd Mercher 29 Gorffennaf
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon cysylltwch â [email protected] neu [email protected]
Trosolwg o'r Prosiect
Mae EYST yn edrych ymlaen at ymuno â Codi ar eu Prosiect Llwybr Gyrfaoedd Gwyrdd. Bydd yr anogwr cyflogaeth yn rhan o dîm y Llwybr Gyrfaoedd Gwyrdd ond bydd wedi’i leoli yn EYST.
Bydd y Swyddog Cymorth Prosiectau yn cefnogi’r gwaith o gyflawni’r prosiect ac yn cefnogi pobl ifanc (16-30 oed) yn Abertawe i oresgyn rhwystrau, magu hyder, ac ennill sgiliau hanfodol ar gyfer gyrfaoedd sy’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd, cadernid hinsawdd ac adferiad amgylcheddol.
Bydd y swydd hon yn cefnogi’r gwaith o ddarparu ein cymorth cyflogaeth presennol drwy ddatblygu cyflogadwyedd a sgiliau gwyrdd sy’n cyd-fynd â’r economi werdd sy’n tyfu ac sy’n cyfrannu at leihau allyriadau carbon, adfer natur, a hyrwyddo addasu i’r hinsawdd.
Mae’r swydd hon yn gofyn am ddull rhagweithiol, cefnogol a chynhwysol sy’n canolbwyntio ar Dîm i rymuso pobl ifanc, gwella eu cyflogadwyedd, a’u galluogi i gyfrannu at ddyfodol mwy cynaliadwy. Bydd y swydd yn cefnogi agenda EYST i fod yn fwy effeithlon a gwybodus o ran systemau Gwyrdd a gwella ein heffaith amgylcheddol
Amcanion y Swydd
1. Cefnogi’r gwaith o gyflawni prosiectau drwy ymgysylltu’n weithredol â phobl ifanc, yn enwedig rhai o grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli, gan gynnwys menywod, unigolion ag anableddau a chymunedau lleiafrifoedd ethnig, i gymryd rhan mewn mentrau gwyrdd ac adeiladu llwybrau i’r sector gwyrdd.
2. Cefnogi’r gwaith o ddarparu hyfforddiant a mentora wedi’u teilwra i helpu cyfranogwyr i fagu hyder, datblygu sgiliau, a pharatoi ar gyfer gyrfaoedd cynaliadwy.
3. Meithrin mynediad teg at gyfleoedd gwaith yn yr economi werdd, gan sicrhau bod yr holl gyfranogwyr yn gallu llwyddo mewn gyrfaoedd ystyrlon sy’n canolbwyntio ar yr amgylchedd
4. Cefnogi’r gwaith o ddarparu cymorth personol i bob cyfranogwr, gan ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau sy’n cyd-fynd ag anghenion yr economi werdd nawr ac yn y dyfodol.
5. Cefnogi’r gwaith o gyflawni’r prosiect a gweithio’n agos gyda’r Hyfforddwr Cyflogaeth i gefnogi cyfranogwyr
6. Cefnogi agenda EYST i wella gwybodaeth ac effeithlonrwydd gwyrdd.
Prif Gyfrifoldebau a Phrif Ddyletswyddau
1. Cefnogi’r gwaith o ddarparu Cymorth ac Ymgysylltu Unigol
Mae hyn yn cynnwys:
· Darparu hyfforddiant personol drwy sesiynau un-i-un cyson a gweithdai grŵp wedi’u targedu, gan addasu i gyflymder ac anghenion pob cyfranogwr er mwyn meithrin hyder ac annog cyfranogiad gweithredol.
· Sefydlu ymddiriedaeth, diogelwch a diogeledd drwy ddefnyddio perthynas bresennol y sefydliad â phobl ifanc.
· Mireinio dulliau hyfforddi’n barhaus yn seiliedig ar adborth a chanlyniadau cyfranogwyr i wella strategaethau cefnogi.
· Cydweithio â’r Cydlynydd Lleoliadau i wella cyfleoedd dysgu a lleoliadau yn y farchnad swyddi werdd.
Olrhain cynnydd cyfranogwyr, asesu canlyniadau, a pharatoi adroddiadau sy’n cyfrannu at fewnwelediadau polisi ac ystyriaethau cyllido
2. Cefnogi Ymgysylltiad ac Ysbrydoliaeth Cyfranogwyr
Mae hyn yn cynnwys:
· Nodi pobl ifanc 16-30 oed ar y cyd â sefydliadau cymunedol lleol, gan sicrhau bod unigolion ag anableddau a’r rheini o gymunedau lleiafrifoedd ethnig yn cael eu cynnwys yn amrywiol.
· Meithrin perthynas drwy hyfforddiant un-i-un a gweithgareddau grŵp, gan annog cyfranogiad mewn rhaglenni a meithrin hunanhyder.
· Mynd i’r afael â rhwystrau ymgysylltu unigol, gan ddarparu cymorth wedi’i deilwra i helpu cyfranogwyr i gychwyn ar eu llwybr tuag at yrfaoedd gwyrdd.
3. Cefnogi Archwilio Gyrfa a Datblygu Sgiliau
Mae hyn yn cynnwys:
· Helpu pobl ifanc i adnabod a mynegi eu sgiliau, eu cryfderau a meysydd i’w gwella, gan ganolbwyntio ar sgiliau parodrwydd am swydd fel sgiliau cymdeithasol, technegol a bywyd.
· Addysgu cyfranogwyr am sgiliau gwyrdd, gan gynnwys arferion cynaliadwyedd a gwybodaeth am ynni adnewyddadwy, drwy weithdai a sesiynau meithrin sgiliau.
· Cefnogi parodrwydd am swydd gydag adnoddau ar gyfer ysgrifennu CV, technegau chwilio am swydd, a ffug gyfweliadau.
4. Cefnogi Profiadau Gwaith a Lleoliadau
Mae hyn yn cynnwys:
· Trefnu lleoliadau gwaith a gwirfoddoli mewn sectorau gwyrdd, gan weithio gyda chyflogwyr i sicrhau cyfleoedd cynhwysol a hygyrch.
· Ymgysylltu â chymunedau lleol i hyrwyddo’r Llwybr Gyrfaoedd Gwyrdd, yn enwedig ymysg grwpiau sydd ar y cyrion, gan ddefnyddio cysylltiadau sefydledig â sefydliadau cymunedol i wella allgymorth.
· Meithrin perthynas broffesiynol gyda phartneriaid cyflenwi, contractwyr, darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr i sicrhau system gymorth gydlynol i gyfranogwyr.
· Gweithredu fel cysylltydd rhwng cyfranogwyr a chyfleoedd gyrfa gwyrdd lleol, gan nodi lleoliadau a swyddi lefel mynediad sy’n cyd-fynd â’u diddordebau a’u sgiliau.
5.
Cefnogi’r gwaith o ddarparu Cymorth yn y Gwaith a Datblygu Gyrfa
· Darparu hyfforddiant parhaus am hyd at flwyddyn ar ôl lleoliad i gefnogi cadw swyddi a datblygu gyrfa.
· Helpu cyfranogwyr i gael gafael ar fwrsarïau hyfforddi ac addysg bellach mewn partneriaeth â sefydliadau a darparwyr hyfforddiant yn y sector gwyrdd.
6.
Hyrwyddo Amrywiaeth, Tegwch a Chynhwysiant mewn Gyrfaoedd Gwyrdd
Mae hyn yn cynnwys:
· Gweithio mewn partneriaeth â chyflogwyr i sicrhau bod cyfleoedd gyrfa gwyrdd yn hygyrch i fenywod, pobl ifanc ag anableddau, ac unigolion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig.
· Cofnodi gwybodaeth a rhannu’r hyn a ddysgwyd o’r rhaglen i lywio polisi a hyrwyddo arferion cyflogi teg yn y sector gwyrdd.
7. Cefnogi a mynychu cyfarfodydd rhwydwaith rheolaidd i bartneriaid fynychu a rhannu diweddariadau a dysgu a thynnu sylw at broblemau
8. Cyflwyno adroddiadau cynnydd rheolaidd i gyllidwyr, Cyd-gyfarwyddwyr EYST a Bwrdd EYST yn ôl yr angen
9. Sicrhau bod y prosiect yn hyrwyddo ac yn adlewyrchu cyfle cyfartal ar bob lefel.
10. Sicrhau bod polisïau Diogelu, Diogelu Data, Cyfleoedd Cyfartal a holl bolisïau perthnasol eraill EYST yn cael eu rhoi ar waith.
11. Cynnal yr holl gofnodion gweinyddol ac ariannol sy’n gysylltiedig â’r prosiect, yn unol â systemau gweinyddol ac ariannol EYST.
12. Gweithio gyda Chyd-gyfarwyddwyr a Bwrdd EYST i osod a chynnal diwylliant o safonau proffesiynol uchel ac i ddarparu gwasanaethau o’r gwerth gorau.
13. Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill y gallai fod eu hangen o bryd i’w gilydd.
Manyleb y Person
1. O leiaf blwyddyn o brofiad o weithio gyda chymunedau lleiafrifoedd ethnig, gorau oll os yw hynny yng Nghymru.
2. Sgiliau Ymgysylltu â’r Gymuned
3. Gallu cydweithio
4. Gwybodaeth a phrofiad penodol o’r materion sy’n wynebu cymunedau lleiafrifoedd ethnig amrywiol yng Nghymru o ran cyflogadwyedd
5. Gwybodaeth dda am yrfaoedd gwyrdd a chynaliadwyedd
6. Gallu cydymdeimlo, cefnogi a grymuso cleientiaid.
7. Gallu gweithio’n annibynnol a gyda llawer o ddisgresiwn ond gofyn am gyngor yn ôl yr angen
8. Sgiliau ysgrifenedig, llafar a rhyngbersonol ardderchog
9. Profiad o fonitro prosiectau a chofnodi cymorth i gleientiaid gan ddefnyddio systemau CRM Cleientiaid
10. Dealltwriaeth fanwl ac ymrwymiad i gyfle cyfartal, ynghyd ag ymrwymiad i gyfrannu at ddatblygu polisi ac arferion yn y maes hwn
11. Gallu cymell eich hun a gweithio o fewn terfynau amser ac o dan bwysau mewn amgylchedd dwys iawn.
12. Gallu teithio ar draws rhanbarth Abertawe
13. Sgiliau TG da gan gynnwys sgiliau E-bost, PowerPoint, Word, Excel a Gweithio o Bell (Zoom, ac ati) gyda’r gallu i addasu i dechnoleg newydd
14. Ymrwymiad i ddatblygiad personol a phroffesiynol parhaus
15. Ymrwymiad amlwg i Werthoedd Sefydliadol EYST o ran Cydraddoldeb, Cyfiawnder Cymdeithasol a Gwneud Gwahaniaeth Cadarnhaol
16. Ymrwymiad i Egwyddorion OAR EYST o ran Perchnogaeth, Atebolrwydd a Pharch
Auto-Apply to Project Support Officer Jobs with your AI JobCopilot
Copyright © 2026 Grabjobs Pte.Ltd. All Rights Reserved.