A

CLERC Y CYNGOR

icon building Company : Ad Warrior
icon briefcase Job Type : Full Time

Number of Applicants

 : 

000+

Click to reveal the number of candidates who applied for this job.
icon loader
icon loader

Let AI Supercharge Your Job Hunt!

JobCopilot scans 500,000+ company career sites daily to find jobs for you

Never miss an opportunity Save hours by auto-filling applications forms Land more interviews with tailored applications
happy man
thunder iconActivate JobCopilot

Job Description - CLERC Y CYNGOR

CLERC Y CYNGOR

Ystradgynlais

£46,731 i £50,788 yf

Mae Cyngor Ystradgynlais wedi ymrwymo i wasanaethu pobl y dref trwy ddarparu cyfleusterau hanfodol a meithrin datblygiad cymunedol a llesiant ein trigolion. Ni yw’r ail dref fwyaf yn SirPowys, ac yn ogystal â’n treftadaeth ddiwydiannol, fe’n gwelir erbyn hyn yn borth deheuol i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, sy’n golygu fod yr ardal o’n cwmpas yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid ac ymwelwyr dydd. Mae gan y Cyngor Tref 16 cynghorydd etholedig a thri aelod o staff, yn cynrychioli tua 6,500 o etholwyr, a gwariant blynyddol o tua £500,000.

Wrth inni gynnal ein hymrwymiad i lesiant y gymuned, rydym yn falch o gyhoeddi cyfle i weithiwr proffesiynol ymroddedig ymuno â’r Cyngor yn Glerc y Cyngor.

Gan weithio o swyddfeydd y Cyngor Tref, bydd angen i ymgeisyddion arddangos casgliad deinamig o sgiliau, a’r gallu i feddwl a gweithredu’n strategol, ynghyd â meddu ar brofiad o reolaeth weinyddol mewn amgylchedd cymhleth. Bydd angen ichi allu deall cyfraith a gweithdrefnau llywodraeth leol, meddu ar wybodaeth ariannol gadarn a phrofiad o fod yn rheolydd llinell ar staff. Bydd angen hefyd ichi allu cynrychioli’r Cyngor mewn trafodaethau gyda chyrff allanol. Mae sgiliau TG 'Office’ medrus yn hanfodol hefyd.

Byddwch yn atebol i’r Cyngor yn gyfan, ac yn gweithredu’n brif ymgynghorydd ar bob mater yn ymwneud â llywodraethiant er mwyn iddo allu cyflawni ei gyfrifoldebau statudol. Byddwch yn chwarae rôl allweddol yn cynghori a chefnogi llunio polisïau, a gofalu fod penderfyniadau’r Cyngor yn cael eu gweithredu’n effeithiol.

Mae disgwyl y bydd gennych, neu y byddwch yn gweithio tuag at gymhwyster proffesiynol priodol (Tystysgrif mewn Gweinyddiaeth Cynghorau Lleol neu gymhwyster cyfatebol). Mae disgwyl hefyd y byddwch yn ymrwymo i ddatblygiad proffesiynol parhaus.

Bydd disgwyl hefyd ichi fynychu cyfarfodydd rheolaidd gyda’r nos ac ambell benwythnos yn ôl y galw. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol, ond nid yn hanfodol.

Ni dderbynnir dogfennauCV.

DYDDIAD CAU: Canol nos ar y 23ain Mai 2025

Mae Cyngor Tref Ystradgynlais yn Gyflogydd Cyfleoedd Cyfartal ac mae’n croesawu ceisiadau o bob rhan o’r gymuned

Original job CLERC Y CYNGOR posted on GrabJobs ©. To flag any issues with this job please use the Report Job button on GrabJobs.
Share Job
Share Job

Auto-Apply to CLERC Y CYNGOR Jobs with your AI JobCopilot

thunder icon Auto-Apply with AI

Similar CLERC Y CYNGOR Jobs in the UK

GrabJobs is the no1 job portal in the UK, connecting you to thousands of jobs fast! Find the best jobs in the UK, apply in 1 click and get a job today!

Mobile Apps

Copyright © 2026 Grabjobs Pte.Ltd. All Rights Reserved.