📄 Cytundeb: 1 flwyddyn gyda phosibiliad o ymestyn am 4 mlynedd pellach
🗓️ Dyddiad cau: 23 Gorffennaf 2025
Trosolwg
Ydych chi’n angerddol dros addysg a grymuso dysgwyr? Mae Academi Seren Llywodraeth Cymru yn sefydlu Tîm Cyflawni newydd i Gymru. Bydd y tîm cyflawni yn cynnwys chwech rheolwr cyflawni a fydd yn cydweithio i ddarparu cynnig Seren Cymru gyfan i’n dysgwyr disgleiriaf yng Nghymru.
Mwy am Academi Seren
Gweledigaeth Academi Seren yw i ddysgwyr, waeth beth fo’u cefndir economaidd-gymdeithasol, gael yr uchelgais, y gallu a’r chwilfrydedd i gyflawni eu potensial a rhagori yn nodau addysgol y dyfodol ar y lefel uchaf.
Y genhadaeth yw i gefnogi dysgwyr Seren wrth iddynt geisio rhagori drwy dri amcan strategol:
Tanio chwilfrydedd a chymhelliant dysgwyr ar gyfer eu dysgu.
Grymuso dysgwyr i wneud dewisiadau uchelgeisiol, gwybodus am eu llwybr addysgol yn y dyfodol.
Datblygu gallu dysgwyr i gyrraedd eu potensial a llwyddo mewn prifysgolion blaenllaw iawn.
Mae Academi Seren yn darparu rhaglen o gefnogaeth arbenigol a anelir at anghenion ein dysgwyr disgleiriaf ac yn darparu rhaglen hybrid o weithgareddau gorgyrsiol i ymestyn a herio dysgwyr, sy’n datblygu o Flwyddyn 8 i Flwyddyn 13.
Swyddogaeth a Chyfrifoldebau
Pwrpas y swydd hon yw i:
Ymgysylltu gyda a magu perthnasau gyda’ch ysgolion a cholegau AB dynodedig a’u cefnogi i ddethol y dysgwyr priodol ar gyfer Academi Seren.
Fod yn wyneb i Seren ar gyfer eich canolfannau dynodedig, gan ateb cwestiynau, darparu cyfleoedd yn yr ardal leol i ddysgwyr gael ymgysylltu gyda’i gilydd, codi uchelgeisiau a hunaneffeithiolrwydd dysgwyr i anelu’n uchel.
Sicrhau bod y dysgwyr a’r canolfannau yn ymwybodol o’r holl gyfleoedd, gweithgareddau a’r profiadau sydd ar gael iddynt fel rhan o’r academi.
Fanteisio ar yr adnoddau sydd ar gael i ysbrydoli dysgwyr a’u dyheadau am eu dyfodol.
Ddathlu llwyddiannau dysgwyr a’u canolfannau.
Y cyfrifoldebau yw i:
Sicrhau bod yr holl ddysgwyr Seren a nodir wedi cofrestru gyda’r academi
Gadw at reoliadau diogelu ar gyfer y grwpiau oedran gwahanol
Weithio ar draws y tîm cyflawni i ddarparu cynnig Cymru gyfan gydgysylltiedig i ddysgwyr
Ymgysylltu gyda dysgwyr i’w hysbysu o’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt, sut a phryd i wneud y penderfyniadau cywir ac agor drysau iddynt ymgysylltu gyda’r bobl, sefydliadau ac adnoddau cywir i gefnogi eu llwybrau o ddewis.
Annog dysgwyr i ymgysylltu gydag adeiladu’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer y cyrchfan o’u dewis.
Adnabod anghenion y dysgwyr o fewn eich canolfannau dynodedig a gweithio gyda’r tîm i gydweithio ar gyfleoedd.
Ddod ag athrawon eich canolfannau dynodedig at ei gilydd i gydweithio ar gyfleoedd.
Ymgysylltu gyda a hysbysu rhieni/gofalwyr Seren am sut allant gefnogi eu plentyn y ffordd orau.
Bod yn rhagweithiol o fewn y tîm i gefnogi eraill a rhannu gwybodaeth arbenigol ac arferion da.
Nodi enghreifftiau o ddarpariaeth dda ac astudiaethau achos i ddathlu llwyddiannau.
Casglu ac adrodd ar ddata a gwariant i gefnogi gwerthuso a gwelliant parhaus y rhaglen.
Am Beth Rydym yn Chwilio:
Rydym yn chwilio am unigolion sydd gan:
Brofiad mewn addysg, gwaith ieuenctid neu allgymorth (mae profiad o weithio gydag ysgolion/colegau yn hanfodol).
Sgiliau cyfathrebu rhagorol a’r gallu i ymgysylltu gyda ac ysbrydoli pobl ifanc, athrawon a rhanddeiliaid ehangach.
Llwyddiant blaenorol yn trefnu a darparu gweithgareddau cyfoethogi, gweithdai neu ddigwyddiadau.
Sgiliau cynllunio, trefnu a rheoli amser cryf - gyda’r gallu i weithio’n annibynnol ar draws nifer o leoliadau.
Angerdd gwirioneddol dros gydraddoldeb mewn addysg, symudedd cymdeithasol a chefnogaeth i ddysgwyr.
Dealltwriaeth o’r tirwedd addysg yng Nghymru ac ymrwymiad i gefnogi dysgwyr yng Nghymru.
Trwydded yrru lawn a’r parodrwydd i deithio yn eang ar draws y rhanbarth a ddynodir.
Parodrwydd i weithio’n hyblyg, gan y bydd y swydd yn golygu peth gwaith yn ystod y penwythnos a gyda’r nos, yn ogystal ag amser yn gweithio i ffwrdd i gefnogi cyflawniad cyrsiau preswyl mewn prifysgolion yn y DU.
Dymunol (ond nid yn angenrheidiol)
Statws Athro Cymwysiedig (SAC)
Profiad o weithio ar raglenni mynediad i AU neu ehangu cyfranogiad.
Siaradwr Cymraeg (ceir cefnogaeth gydag ysgrifennu a chyfieithu ar y pryd)
Cyflog blynyddol o £40,000
25 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc
All Job Ads are subject to GrabJobs’s Terms of Service. We allow users to flag postings that may be in violation of those terms. Job Ads may also be flagged by GrabJobs moderation team. However, no moderation system is perfect, and flagging a posting does not ensure that it will be removed.
Be the first to receive the latest Others Full-Time Jobs in the UK.
Setup your job alert:
By activating job alerts, I agree to GrabJobs Terms & Privacy Policy. I can unsubscribe to job alerts anytime.
Skip
GrabJobs is the no1 job portal in the UK, connecting you to thousands of jobs fast!
Find the best jobs in the UK, apply in 1 click and get a job today!