B

Ymchwilydd Radio Cymru

salary Salary :

£24,600 - 32,500 yearly

icon building Company : Bbc
icon briefcase Job Type : Full Time

Number of Applicants

 : 

000+

Click to reveal the number of candidates who applied for this job.
icon loader
icon loader

Let AI Supercharge Your Job Hunt!

JobCopilot scans 500,000+ company career sites daily to find jobs for you

Never miss an opportunity Save hours by auto-filling applications forms Land more interviews with tailored applications
happy man
thunder iconActivate JobCopilot

Job Description - Ymchwilydd Radio Cymru


MANYLION Y SWYDD

BAND Y SWYDD : B


MATH O GYTUNDEB: Cytundeb cyfnod penodol, llawn amser tan 13/11/2026


ADRAN: BBC Radio Cymru


LLEOLIAD: Caerdydd


YSTOD CYFLOG: Ystod cyflog £24,600 - £32,500 yn ddibynnol ar sgiliau, gwybodaeth a phrofiad perthnasol. Mae’r amrediad cyflog disgwyliedig ar gyfer y swydd hon yn adlewyrchu meincnodi mewnol a gwybodaeth am y farchnad allanol.


 


Mae sgiliau'r Gymraeg yn hanfodol am y swydd hon.

PWRPAS Y SWYDD

Mae Radio Cymru wedi bod yn darlledu ers 1977, gyda Radio Cymru 2 yn lansio yn 2018. Rydym yn darlledu ar gyfartaledd dros 22 awr o raglenni bob dydd i dros 100,000 o wrandawyr ar draws Cymru ar byd. Mae Radio Cymru yn gwasanaethu siaradwyr Cymraeg o bob oedran a diddordeb drwy ddarparu rhaglenni cerddoriaeth, rhaglenni dogfen, rhaglenni trafod, materion cyfoes a gwleidyddiaeth, crefydd, y celfyddydau a llawer mwy.


 


Mae gan yr orsaf wasanaeth newyddion a chwaraeon llawn. Rydym hefyd yn darlledu o digwyddiadau o bob math fel Eisteddfod yr Urdd, Tafwyl, Y Sioe Frenhinol a’r Eisteddfod Genedlaethol. Cerddoriaeth gyfoes yw pwyslais Radio Cymru 2. Gall yr ymgeisydd llwyddiannus fod yn ymchwilydd ar amrywiaeth o raglenni ar draws Radio Cymru a Radio Cymru 2.


 


PAM YMUNO Â’R TÎM


Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn berson brwdfrydig, creadigol a threfnus, ac yn angerddol dros greu cynnwys o’r safon uchaf.  Bydd yr ymgeisydd yn gweithio’n dda fel unigolyn neu fel rhan o dîm, ac yn dangos parch tuag at gydweithwyr. Bydd disgwyl ymddygiad proffesiynol o fewn y gweithle a medru addasu i ofynion golygyddol wrth weithio gyda chynhyrchydd a thim pellach.


 


EICH PRIF GYFRIFOLDEBAU A’CH DYLANWAD:



  • Fel rhan o dîm cynhyrchu hynod greadigol, byddwch yn ymchwilio ac yn datblygu syniadau a chynnwys amrywiol, ac ar brydiau o fewn amserlen heriol.

  • Byddwch yn cyfrannu at yr ymdrech ddarlledu a chyhoeddi’r cynnwys yna ar Radio Cymru neu Radio Cymru 2.

  • Byddwch yn derbyn hyfforddiant stiwdio, golygu, ffilmio a phob math o brofiadau difyr i gyrraedd cynulleidfa.


 


MEINI PRAWF HANFODOL:



  • Angerdd tuag at ymchwilio cynnwys creadigol a pharodrwydd i gyfrannu i nifer o raglenni amrywiol Radio Cymru.

  • Ymwybyddiaeth o ofynion llwyfannau digidol gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol, a’r cyfleon allai godi i Radio Cymru a Radio Cymru 2 yn eu sgil.

  • Ymwybyddiaeth o arddull wahanol Radio Cymru a Radio Cymru 2 a gwybodaeth am yr orsaf a’i rhaglenni.

  • Parodrwydd i ddysgu sut i ddefnyddio systemau a gweithdrefnau darlledu newydd

  • Cymraeg llafar ac ysgrifenedig derbyniol.


 


Os oes gennych chi rai o’r sgiliau a’r profiadau hyn, ynghyd â chryfderau trosglwyddadwy, byddem yn falch o glywed gennych chi ac rydym yn eich annog i wneud cais.


Original job Ymchwilydd Radio Cymru posted on GrabJobs ©. To flag any issues with this job please use the Report Job button on GrabJobs.
Share Job
Share Job

Auto-Apply to Ymchwilydd Radio Jobs with your AI JobCopilot

thunder icon Auto-Apply with AI

Similar Ymchwilydd Radio Jobs in the UK

GrabJobs is the no1 job portal in the UK, connecting you to thousands of jobs fast! Find the best jobs in the UK, apply in 1 click and get a job today!

Mobile Apps

Copyright © 2026 Grabjobs Pte.Ltd. All Rights Reserved.