£24,650 monthly
MATH O GONTRACT: Prentisiaeth Cyfnod Penodol, Llawn-amser am 13 mis
ADRAN: BBC Radio Cymru
LLEOLIAD: Caerdydd neu Fangor
CYFLOG: £24,650
Ymunwch â ni fel prentis yn y BBC i roi hwb i’ch gyrfa mewn swydd y byddwch wrth eich bodd â hi. Rydym ni wedi ymrwymo i’ch helpu chi i ddatblygu eich sgiliau a’ch talent. Byddwch yn dysgu yn y gwaith ac yn cael cyfle i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau mewn maes y mae gennych chi ddiddordeb mawr ynddo, a hynny wrth weithio tuag at eich cymhwyster prentisiaeth gydag un o’n darparwyr dysgu.
Dyma gyfle i chi lansio gyrfa yng nghanol y byd darlledu ym Mhrydain. Rydym ni'n chwilio am unigolion sy'n frwd dros ganfod sut rydym ni'n creu cynnwys ac yn dod â syniadau'n fyw. Yn dibynnu ar ardal eich lleoliad, gallech chi fod yn gweithio y tu ôl i'r llenni ar gynyrchiadau cyffrous, megis dramâu gafaelgar neu wefr radio byw, ac ennill cymhwyster cydnabyddedig wrth ddysgu yn y gwaith. Dyma gyfle i chi ehangu eich gwybodaeth am gynhyrchu wrth weithio ar gynnwys sy'n bwysig i filiynau.
Eisiau gwybod mwy? Gwyliwch recordiadau o’n cyfres o weminarau ar ein rhestr chwarae YouTube Bywyd yn y BBC i ddysgu mwy am y cynllun hwn a’r cyfleoedd eraill rydym ni’n eu cynnig, ac i glywed gan ein prentisiaid presennol am eu profiadau nhw.
Mae lleoedd ar y Brentisiaeth Cynorthwyydd Cynhyrchu ar gael ar draws amrywiaeth o dimau yn y lleoliad hwn, yn ogystal â lleoliadau eraill. Mae manylion lleoliadau gwaith eraill sydd ar gael yn y lleoliad hwn ar wefan Gyrfaoedd Cynnar y BBC.
BBC Radio Cymru yw gorsaf radio Gymraeg genedlaethol Cymru ac mae’n darlledu ers 1977. Cafodd Radio Cymru 2 yn cael ei lansio yn 2018. Ar gyfartaledd, rydym yn darlledu dros 22 awr o raglenni bob dydd i dros 100,000 o wrandawyr ledled Cymru a’r tu hwnt. Mae Radio Cymru yn gwasanaethu siaradwyr Cymraeg o bob oed a diddordeb drwy ddarparu rhaglenni cerddoriaeth, rhaglenni dogfen, sioeau trafod, materion cyfoes a gwleidyddiaeth, crefydd, y celfyddydau, a llawer mwy. Rydym hefyd yn darlledu o ddigwyddiadau o bob math, megis Eisteddfod yr Urdd, Tafwyl, y Sioe Frenhinol, a'r Eisteddfod Genedlaethol. Cerddoriaeth gyfoes yw ffocws Radio Cymru 2.
Fel Prentis Cynorthwyydd Cynhyrchu yn y BBC, byddwch chi’n cael profiad ymarferol ar draws amrywiaeth o brosiectau – o gefnogi cynyrchiadau uchel eu proffil i gyfrannu at gynnwys y mae cynulleidfaoedd ledled y DU yn ei fwynhau. Byddwch chi’n gweithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol profiadol, yn datblygu sgiliau ymarferol ac yn chwarae rhan weithredol yn y gwaith o ddod â syniadau creadigol yn fyw. Gallai’r brentisiaeth hon arwain at gyfleoedd i weithio fel:
• Is-ymchwilydd
• Rhedwr
• Cynorthwyydd Cynnwys neu Olygu
Fel Prentis Cynorthwyydd Cynhyrchu gyda Chwaraeon BBC Radio Cymru, mae hwn yn gyfle gwych i ddysgu, tyfu a chyfrannu. Fe allech chi fod yn:
Byddwch yn astudio ar gyfer eich cymhwyster prentisiaeth sy’n cael ei gydnabod gan y diwydiant, gan ddysgu yn y gwaith a’r tu allan i'r gwaith. Mae hyn yn golygu y byddwch chi, yn ogystal â dysgu ar eich lleoliad yn y BBC, yn mynychu blociau dysgu (hyd at wythnos ar y tro) gyda'n darparwr dysgu, gan weithio tuag at gymhwyster prentisiaeth a gydnabyddir gan y diwydiant – Lefel 3 y Cyfryngau Creadigol. Bydd y blociau dysgu yn gyfuniad o ddarpariaeth wyneb yn wyneb a rhithwir, gan gynnwys:
Fel rhan o’r rhaglen, bydd gofyn i chi deithio i fynd i flociau dysgu wyneb yn wyneb a gweithgareddau eraill sy’n gysylltiedig â’r brentisiaeth lle bo angen.
I gael rhagor o wybodaeth am safon y brentisiaeth y byddwch yn ei hastudio, darllenwch y manylion yn Fframwaith Lefel 3 Cyfryngau Creadigol.
Rydym ni eisiau gwybod pam eich bod chi’n awyddus i weithio yn y BBC, ac mae gennym ddiddordeb yn eich brwdfrydedd i ddarparu cynnwys o’r radd flaenaf a rhagoriaeth weithredol i’n cynulleidfaoedd. Eich potensial sy’n bwysig i ni, nid eich cymwysterau, a byddwn ni’n rhoi cyfle i chi roi eich profiad a’ch cryfderau trosglwyddadwy ar waith mewn gwahanol ffyrdd.
Os oes gennych chi rai o’r sgiliau a’r profiadau hyn, ynghyd â chryfderau trosglwyddadwy, byddem yn falch o glywed gennych chi ac rydym yn eich annog i wneud cais:
Mae'r cynllun hwn wedi'i anelu at bobl heb raddio. Os oes gennych chi radd a bod gennych chi ddiddordeb mewn rolau tebyg yn y BBC, rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais am swyddi ar wefan gyrfaoedd y BBC neu’n edrych ar ein cynlluniau prentisiaeth eraill.
Mae’n rhaid i chi fodloni’r gofynion canlynol i fod yn gymwys ar gyfer prentisiaeth yn y BBC:
I gwblhau'r brentisiaeth, rhaid i chi fod â TGAU Gradd 4/C neu uwch mewn Mathemateg a Saesneg, neu National 5 (Yr Alban) Gradd C, neu Sgiliau Gweithredol Lefel 2 neu gymhwyster cyfatebol. Os nad ydych chi wedi ennill y cymwysterau hyn erbyn dechrau eich prentisiaeth, bydd gofyn i chi gyflawni Sgiliau Swyddogaethol Lefel 2 cyn diwedd cyfnod asesu'r brentisiaeth pan fyddwch chi’n cwblhau eich asesiad terfynol.
Peidiwch â cholli'r cyfle i fod yn rhan o rywbeth cyffrous. Ydych chi'n eich gweld eich hun yn ffynnu yn y rôl hon? Cliciwch ‘Ymgeisio Nawr’!
Bydd angen i chi greu proffil ymgeisydd ac ateb ambell gwestiwn – does dim angen CV na llythyr cais.
Os ydych chi’n gymwys, byddwn ni’n eich tywys drwy’r camau nesaf gan roi syniad i chi o beth i’w ddisgwyl.
Bydd angen i chi fyw o fewn pellter teithio i leoliad y swydd hon. Eisiau gweithio o leoliad gwahanol? Edrychwch ar ein hysbysebion eraill – ond cofiwch mai dim ond am un swydd y dylech wneud cais.
Mae hon yn brentisiaeth am gyfnod penodol – bydd eich contract yn para hyd ddiwedd y cynllun. Ar ôl i chi gwblhau eich prentisiaeth, byddwch yn gallu gwneud cais am unrhyw swyddi gwag addas yn y BBC neu yn y sector creadigol ehangach. Byddwch yn cael cymorth gyda datblygiad gyrfa, hyfforddiant cyflogadwyedd, a chyfleoedd rhwydweithio i’ch helpu i gymryd y cam nesaf.
Ar gyfer cyfleoedd prentisiaeth, bydd ymgeiswyr anabl sy’n dewis gwneud cais o dan y Cynllun Hyderus o ran Anabledd ac sy’n bodloni’r meini prawf sylfaenol ar gyfer y rôl yn symud ymlaen i gam nesaf y broses recriwtio fel arfer. Ar gyfer y rhan fwyaf o’n hymgyrchoedd, byddai hyn yn golygu asesiad ar-lein sydd wedi’i gynllunio i asesu eich sgiliau, eich cymhellion a’ch addasrwydd ar gyfer y swydd. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran Cwestiynau Cyffredin ar ein gwefan gyrfaoedd.
PRA27
Copyright © 2026 Grabjobs Pte.Ltd. All Rights Reserved.