£23,500 - 23,893 yearly
Number of Applicants
:000+
CYNORTHWYYDD GWEINYDDOL
GRADD 4, Cyflog: £23,500 - £23,893 per annum (pro rata) Rhan Amser - 10 awr yr wythnos Rhif Swydd: NU242 Swydd Dros Dro – 3 mis i gychwyn
Mae'r sedd wag dros dro uchod wedi codi yng Ngorsaf Dân Llanilltud Fawr. Rôl deiliad y swydd fydd darparu gwasanaeth cymorth gweinyddol cyffredinol o safon uchel ar gyfer Gorsaf y System Dyletswydd Rhan Amser a’r Tîm Rheoli Wrth Gefn. Bydd y dyletswyddau'n cynnwys prosesu geiriau a diweddaru systemau cyfrifiadurol (mae profiad o gymwysiadau Microsoft Office yn hanfodol), agor a dosbarthu post, ateb ymholiadau ffôn a delio â cheisiadau am wybodaeth gyffredinol yn ogystal â chysylltu â phersonél yn fewnol ac yn allanol lle bo angen. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad gweinyddol cyffredinol profedig. Rhaid i ymgeiswyr allu cyfathrebu ar bob lefel a gallu gweithio i derfynau amser ar eu menter eu hunain wrth ddatblygu arferion gwaith. Bydd gofyn i ddeiliad y swydd weithio 10 awr yr wythnos, gan gynnwys mynychu noson Ymarfer ar nos Fercher (tua 1600 - 2000 o oriau). Bydd angen cytuno ar yr oriau sy'n weddill fel oriau penodol gyda'r Rheolwr Llinell yn ystod yr wythnos gyntaf yn y swydd. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gael prawf Cyffuriau ac Alcohol cyn y gwneir unrhyw benodiad. Dylid llenwi Ffurflenni Cais ar-lein trwy law ein system e-recriwtio, y gellir ei chyrchu trwy ein gwefan: Os oes angen fersiwn papur, mae croeso i chi anfon e-bost at: [email protected] Sylwch y bydd y system e-recriwtio yn hysbysu pob ymgeisydd o'r canlyniadau trwy law’r cyfeiriad e-bost a ddarperir yn y cais; dylech sicrhau eich bod yn gwirio pob ffolder post yn rheolaidd. Dylai pob ymgeisydd mewnol sy'n gwneud cais wneud cais trwy eu porth CORE, gan ddewis ''Swyddi Gwag Cyfredol'' o'r tab ar y chwith. Gwahoddir ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â phrofiad a chymwysterau addas fel yr amlinellir ym Manyleb y Person. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw Dydd Iau, y 11eg o Orffennaf 2024 am 12 canol dydd. Mae'r dyddiad dewis ar gyfer y swydd wag hon i'w gadarnhau. Mae'r holl ddogfennaeth ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, ac rydym yn croesawu gohebiaeth yn y naill iaith neu'r llall. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol. Bydd ymgeiswyr sy'n llwyddiannus ar y cam Llunio'r Rhestr Fer yn cael y cyfle i gadarnhau eu dewis iaith ar gyfer cyfweliadau ac asesiadau (gan gynnwys gwaith papur, cyflwyniadau llafar, a chwestiynau cyfweliad). Bydd trefniadau’n cael eu cadarnhau yn dilyn gwahoddiad i gyfweliad a gallant gynnwys Cyfieithu a/neu Gyfieithu ar y Pryd. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn credu yng ngwerth gwirioneddol cael gweithlu amrywiol ac rydym am annog ymgeiswyr o bob sector o’n cymuned i ymgeisio
Llantwit Major, Vale Of Glamorgan, Vale Of Glamorgan, Wales; Wales
Share this job with your friends
Copyright © 2024 Grabjobs Pte.Ltd. All Rights Reserved.