A

RHEOLYDD CYFLEUSTERAU

Job Description - RHEOLYDD CYFLEUSTERAU

RHEOLYDD CYFLEUSTERAU

Ystradgynlais

£37,938 i £40,476 pro rata

Mae Cyngor Ystradgynlais wedi ymrwymo i wasanaethu pobl y dref trwy ddarparu cyfleusterau hanfodol a meithrin datblygiad cymunedol a llesiant ein trigolion. Mae rhan allweddol o’n gwasanaethau yn cynnwys rheoli nifer o gyfleusterau cymunedol pwysig. Mae’r rhain yn cynnwys dau barc hamdden mawr 14 & 15 hectar, dau barc coffa, cloc canol y dref, cae chwaraeon, clwb bowlio, y fynwent leol a rhwydwaith o lwybrau cyhoeddus.

Wrth inni gynnal ein hymrwymiad i lesiant y gymuned, rydym yn chwilio am Reolydd Cyfleusterau rhagweithiol, ymarferol a threfnus iawn i oruchwylio a rheoli portffolio eiddo, asedau, a seilwaith y Cyngor. Mae hon yn rôl allweddol sy’n cynnwys nifer o gyfrifoldebau amrywiol ar draws rheoli cyfleusterau, iechyd a diogelwch, cyflawni prosiectau, a chydymffurfiaeth reoleiddiol.

Bydd eich rôl yn cynnwys mynychu cyfarfodydd y Cyngor yn rheolaidd i ddarparu cyngor ac arweiniad arbenigol i sicrhau y caiff fframweithiau rheoleiddiol, trefniadau archwilio a deddfwriaeth Iechyd & Diogelwch eu hyrwyddo. Bydd disgwyl ichi gynnal y safonau uchaf ar draws ein holl eiddo a llecynnau cyhoeddus, trwy ddatblygu rhaglen fanwl o archwiliadau a gwelliannau ac atgyweiriadau yn ôl y galw, gan sicrhau bod yr holl waith a phrosiectau yn cael eu cyflawni mewn pryd ac o fewn cytundebau lefel gwasanaeth a chyllidebau.

Bydd angen hefyd ichi allu cynrychioli’r Cyngor mewn trafodaethau a negydiadau gyda chyrff a chyflenwyr allanol. Byddwch hefyd yn gyfrifol am gefnogi cyfrifoldebau amgylcheddol y Cyngor o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Mae disgwyl y bydd gennych gymhwyster proffesiynol priodol. Mae disgwyl hefyd y byddwch yn ymrwymo i ddatblygiad proffesiynol parhaus. Mae sgiliau TG 'Office’ medrus yn hanfodol hefyd. Bydd disgwyl hefyd ichi fynychu cyfarfodydd rheolaidd gyda’r nos ac ambell benwythnos yn ôl y galw.

Ni dderbynnir dogfennau CV.

DYDDIAD CAU: Canol nos ar y 23ain Mai 2025

Mae Cyngor Tref Ystradgynlais yn Gyflogydd Cyfleoedd Cyfartal ac mae’n croesawu ceisiadau o bob rhan o’r gymuned.

Original job RHEOLYDD CYFLEUSTERAU posted on GrabJobs ©. To flag any issues with this job please use the Report Job button on GrabJobs.
Share Job
Share Job

Similar RHEOLYDD CYFLEUSTERAU Jobs in the UK

GrabJobs is the no1 job portal in the UK, connecting you to thousands of jobs fast! Find the best jobs in the UK, apply in 1 click and get a job today!

Mobile Apps

Copyright © 2026 Grabjobs Pte.Ltd. All Rights Reserved.